Addysg

Mae Cwmni Theatr Arad Goch yn darparu profiadau creadigol cyfranogol a pherfformiadau byw mewn ysgolion.

Un o’r ffyrdd tecaf o sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn elwa o’r celfyddydau proffesiynol, ni waeth beth fo’u cefndiroedd  a’u sefyllfa, yw drwy ddarparu profiadau creadigol yn eu hysgolion – mannau cyfarfod y rhan fwyaf ohonynt. Rydyn ni’n cydweithio gydag adrannau addysg sawl sir, ysgolion unigol ac asiantaethau eraill i sicrhau bod ein gwaith yn berthnasol i’r cwricwlwm a bod cynifer o blant a phobl ifanc â phosib yn cael mynediad fforddiadwy i’n gwaith.

Ewch i'n Siop Arlein